Mae’r grŵp diweddaraf o ffoaduriaid o Hondwras wedi croesi ffin waatemala yn eu taith hir at ffin yr Unol Daleithiau.

Fe gyrhaeddodd o gwmpas 500 o bobol, yn cynnwys dwsinau o blant, i ddangos eu dogfennau wrth i tua 200 o heddlu Gwatemala alw am weld pwy ydyn nhw.

Cyrhaeddodd y ffoaduriaid groesfan yr Agua Caliente neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 16), wrth iddyn nhw geisio dianc o dlodi yn Hondwras.

Mae beth sydd yn eu disgwyl ar ffin Mesciso a’r Unol Daleithiau yn ansicr.