Mae tri o blant bach a lwyddodd i ddringo i mewn i rewgell fawr, wedi marw oherwydd iddyn nhw fethu â dod allan.

Mae’r awdurdodau yn Fflorida yn dweud i’r plant blwydd, pedair a chwech oed, fethu â chael eu hachub pan gawson nhw eu canfod yn eu cartref yn Live Oak yng ngogledd y dalaith.

Roedden nhw’n byw yn y tŷ gyda nain dau o’r plant, a mam y llall.

Yn ôl swyddfa’r siryf, fe aeth un o’r merched i mewn i’r tŷ a dychwelyd i’r ardd a methu cael y plant yn unman. Fe ddechreuodd y ddwy wraig chwilio’r ty a’r ardda, cyn dod o hyd i’r plant yn y rhewgell.

Dyw’r marwolaethau ddim yn cael eu hystyried yn rhai amheus.