Mae recordydd llais awyren Lion Air, a blymiodd i Fôr Jafa ym mis Hydref, wedi cael ei ddarganfod, meddai swyddog o Indonesia.

Fe blymiodd y Boeing 737 MAX 8 i’r môr funudau ar ôl gadael Jakarta yn Indonesia ar Hydref 29 y llynedd, gan ladd pob un o’r 189 o bobol oedd ar ei bwrdd.

Dywed Ridwan Djamalduddin, dirprwy weinidog morwrol Indonesia fod y Pwyllgor Diogelwch Trafnidiaeth Genedlaethol wedi dod o hyd i’r cofnodydd llais, ynghyd â gweddillion cyrff, yn y safle.

Daeth deifwyr llynges Indonesia o hyd i’r recordydd o dan 26 troedfedd o fwd ar waelod y môr, ar ddyfnder o 100 troedfedd.

Mae’r ddyfais wedi cael ei chludo i borthladd y llynges yn Jakarta cyn cael ei throsglwyddo i’r pwyllgor diogelwch cludiant, sy’n goruchwylio’r ymchwiliad.

Roedd dyfais recordio data’r awyren wedi cael ei darganfod ddyddiau wedi’r ddamwain. Fe  ddangosydd nad oedd cofnodydd cyflymdra’r awyren wedi gweithio’n iawn ar y pedair taith gynt.