Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud nad oes sicrwydd eto y caiff e godi’r wal ar y ffin â Mecsico, wrth i’r llywodraeth gael ei chau am y cyfnod hiraf yn hanes y wlad.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n bwrw ymlaen gyda chynllun i gyhoeddi argyfwng yn y wlad, a fyddai’n rhoi’r awdurdod iddo neilltuo arian i godi’r wal heb fod angen sêl bendith y Gyngres.

Mae disgwyl i wleidyddion ymgynull unwaith eto yn Washington ar ddechrau’r wythnos i drafod y sefyllfa.

Daeth y llywodraeth i ben dros dro 22 o ddiwrnodau’n ôl.

‘Goblygiadau’

“Mae gan etholiadau oblygiadau!” meddai Donald Trump ar Twitter, gan gyfeirio at ei addewid yn yr etholiad yn 2016 i sicrhau diogelwch i’r wlad ar ffurf wal.

Mae’n dweud bellach y gallai’r llywodraeth barhau ynghau am gyfnod di-ben-draw wrth i’r Democratiaid wrthod neilltuo arian ar gyfer y wal.

Wrth egluro pam nad yw e wedi cyhoeddi argyfwng hyd yn hyn, mae’n dweud ei fod e am roi cyfle i’r Democratiaid “weithredu’n gyfrifol”.

Ond pe na baen nhw’n ildio, fe fydd rhaid i’r llywodraeth chwilio am yr arian o gronfa arall.

Mae disgwyl iddo roi sêl bendith i gynllun i dalu gweithwyr y llywodraeth sydd i ffwrdd o’r gwaith yn ddi-dâl ar hyn o bryd.