Mae arweinydd cais Tokyo i gynnal Gemau Olympaidd 2020 wedi’i amau o dwyll mewn perthynas â’r cais yn 2013.

Yn ôl adroddiadau, cafwyd Tsunekazu Takeda yn euog fis diwethaf, er ei fod yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.

Mae’n parhau’n is-lywydd pwyllgor trefnu’r Gemau er gwaetha’r cyhuddiadau.

Fe fu’n flaenllaw yn y trefniadau ar gyfer tair Gemau Olympaidd y Gaeaf, ac yntau’n aelod amlwg o’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC).

Helynt y cais

Daw’r cyhuddiadau 18 mis yn unig cyn dechrau’r Gemau.

Fe fu ffrae yn Tokyo yn ddiweddar tros y gyllideb ar gyfer y Gemau.

Yn 2015, roedd yna ffrae tros gyffuriau a arweiniodd at ymddiswyddiad Lamine Diack, pennaeth corff athletau’r byd.

Mae’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau diweddaraf.

Yn ôl rheolau’r pwyllgor, rhaid i’r holl ymgynghorwyr ar gyfer y Gemau Olympaidd ddilyn canllawiau moeseg a llywodraethiant llym.