Mae Craig McLachlan, sy’n enwog am actio yn Neighbours a Home and Away, yn wynebu wyth cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Fe gafodd ei gyhuddo o gamymddwyn rhywiol gan dair o ferched fu yn actio gydag o ar sioe gerdd The Rocky Horror Show yn 2014.

Ond mae llefarydd ar ran yr actor 53 oed, gafodd hit gyda’r gân ‘Mona’ yn 1990, yn dweud ei fod yn “ddieuog”.