Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi bygwth datgan argyfwng cenedlaethol os nad yw’n gallu dod i gytundeb gyda’r Democratiaid i ariannu codi wal ar y ffin a Mecsico.

Roedd wedi treulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn Tecsas ger y ffin a Mecsico a’r Unol Daleithiau er mwyn tynnu sylw at yr achos ar ôl i drafodaethau gyda gwleidyddion ddod i ben heb gytundeb.

Mae’r llywodraeth wedi bod ynghau yn rhannol am 20 diwrnod bellach gyda channoedd ar filoedd o weithwyr ffederal ddim yn eu gwaith neu’n gweithio heb dal wrth i’r anghydfod barhau.

Pan ofynnwyd i Donald Trump a fyddai’n cyhoeddi stad o argyfwng dywedodd: “Dw i ddim yn barod i wneud hynny eto, ond fe wna’i os oes rhaid.”

Mae’n dweud y byddai’r cyhoeddiad yn ei alluogi i gael y fyddin i ddechrau adeiladu’r wal.

Mae’r Democratiaid wedi dweud eu bod nhw o blaid mesurau i wella diogelwch ar y ffin ond yn gwrthwynebu codi wal. Mae Donald Trump eisiau $5.7 biliwn o ddoleri i adeiladu’r wal. Yn ôl yr Arlywydd mae’r wal yn hanfodol i geisio atal yr hyn mae’n ei alw’n “argyfwng” oherwydd mewnfudwyr anghyfreithlon a smyglo cyffuriau ar y ffin.