Mae gwraig un o ddynion cyfoethoca’ Norwy wedi bod ar goll ers misoedd – ac mae ei herwgipwyr bellach yn hawlio arian yn gyfnewid am ei rhyddid.

Does neb wedi gweld Anne-Elisabeth Falkevik Hagen, 68, ers Hydref 31, a’r gred ydi fod ei gŵr, Tom Hagen, dyn busnes sy’n datblygu tai ac yn berchen ar gwmnïau ynni, yn werth bron iawn i 1.7 biliwn kroner (£1.57bn).

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod nodyn wedi’i ganfod yng nghartref y cwpwl, i’r dwyrain o Oslo, yn disgrifio yr hyn fyddai’n digwydd i’r wraig pe na bai ei theulu’n talu pridwerth.

Dydi’r heddlu ddim yn manylu faint o arian y mae’r herwgipwyr yn ei hawlio, ond mae papur newydd VG yn Norwy yn adrodd ei fod yn 9 miliwn ewro (£8m).