Mae storm bump diwrnod dros wlad Libanus, wedi lladd merch 8 oed o Syria, wedi achosi llifogydd mewn mwy nag un ardal, ac wedi cau nifer o lonydd allweddol.

Mae rhai o drigolion Beirut wedi deffro i weld eu ceir dan ddŵr, wedi i afonydd orlifo eu glannau.

Rhai o’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithiol waetha’ yw Antelias yng ngogledd Beirut; a Hay al-Sollom i’r de o’r brifddinas, lle mae mwy nag un afon yn cwrdd.

Mae’r awdurdodau wedi addo y bydd pawb sydd wedi’u heffeithio gan y storm, yn derbyn iawndal.