Mae awyren ryfel o Ffrainc, a dau beilot ar ei bwrdd, wedi diflannu oddi ar y sgriniau radar ger y ffin â’r Swistir.

Mae llefarydd ar ran llu awyr Ffrainc wedi cadarnhau fod y jet Mirage 2000D wedi cael ei gweld ddiwetha’ dros fynyddoedd copa gwynion ardaloedd y Doubs a’r Jura.

Mae ymgyrch ar y gweill i ddod o hyd i dystiolaeth o’r awyren.

Fe gododd yr awyren tua 11yb o faes awyr Nancy-Ochey yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc.