Mae pecyn amheus wedi cael ei anfon at lysgenhadaeth Prydain yn Awstralia.

Mae’r heddlu’n ymdrin â’r digwyddiad ym Melbourne a Canberra, meddai’r Swyddfa Dramor.

Mae pecynnau tebyg eisoes wedi’u hanfon at lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, Seland Newydd, yr Almaen, India a’r Swistir yn ddiweddar.

Mae’r gwasanaeth tân wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynorthwyo’r heddlu gyda “nifer o ddigwyddiadau ar draws Melbourne”.

Mae lluniau ar wefannau cymdeithasol yn dangos yr heddlu y tu allan i adeiladau llysgenhadaeth India a De Corea yn y ddinas.

Mae ymchwiliad ar y gweill.