Mae ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Awstralia i roi mynediad i ferch o Sawdi Arabia sydd ar hyn o bryd yn aros i glywed ei thynged gan awdurdodau’r Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad Thai ar ôl ffoi o’i gwlad.

Mae Rahaf Mohammed Alqunun wedi cael ei chadw dan glo ar ôl cyrraedd Bangkok ddydd Sadwrn (Ionawr 5), ond fe gafodd ei chyfeirio at asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig ar ôl gwrthod dychwelyd adref.

Mae’r ferch 18 oed yn dweud bod ganddi visa i barhau â’i thaith i Awstralia, ond mae adroddiadau’r wasg yn dweud bod llywodraeth y wlad honno bellach wedi’i ohirio.

Yn ôl Elaine Pearson, cyfarwyddwr Human Rights Watch yn Awstralia, mae llywodraeth y wlad wedi mynegi pryderon am hawliau merched yn Sawdi Arabia yn y gorffennol, felly mae’n gyfrifoldeb arnyn nhw i “gynnig diogelwch i’r ddynes ifanc hon”.