Mae’r awdurdodau yn Awstria ac yn yr Almaen wedi rhybuddio rhag achosion o gwymp eira, wedi i nifer o bobol farw mewn digwyddiadau yn ymwneud â’r tywydd.

Fe ddaethpwyd o hyd i ddyn, 28, a dynes, 23, wedi marw ger Salzburg yng nghanolbarth Awstria, wedi iddyn nhw fynd ar goll tra’n crwydro yn yr eira.

Mae tua 40 o weithwyr achub yn dal i chwilio am ddau o bobol eraill sydd wedi diflannu ger Hohenberg yn ne’r wlad.

Yn yr Almaen, mae dyn 44 oed wedi marw yn Wackersberg, Bafaria, wedi iddo gael ei fwrw gan frigau coed yng nghanol cawod drom o eira. Mae’r awdurdodau hefyd yn dweud i ddynes farw ar ôl cael ei chladdu gan gwymp eira yn nhalaith Uri yn y Swistir.

Hefyd dros y Sul, bu farw tri sgïwr yn Awstria mewn cwymp eira, ac fe fu farw gwraig hefyd yn Bafaria.

Mae lôn fynydd yr Hochkar, a’r cyfan o ardal sgïo Hochkar yn ne’r Awstria, wedi cau oherwydd bod siawns uchel o gael cwymp eira. Mae trigolion ac ymwelwyr wedi cael eu hanfon o’r ardal er mwyn eu diogelwch eu hunain.

Mae’r awdurdodau yn Awstria wedi rhybuddio sgïwyr i beidio â chrwydro oddi ar y llethrau, ac i beidio â gyrru eu ceir yn yr eira os nad oes raid gwneud hynny.