Mae o leiaf 30 o bobol wedi marw mewn llifogydd yn Afghanistan wrth chwilio am aur mewn afon.

Fe ddigwyddodd yn nhalaith Badakhshan.

Cafodd dwsinau o bobol eu hanafu yn dilyn tirlithriad yn Kohistan.

Roedden nhw wedi bod yn cloddio yn yr afon cyn y digwyddiad.

Mae disgwyl i nifer y meirw godi eto, gyda rhai adroddiadau eisoes fod o leiaf 40 o bobol wedi marw.