Mae dyn 20 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio merch fach groenddu saith oed ar gefn ei beic yn nhalaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd Jazmine Barnes ei saethu’n farw tra ei bod hi yng nghwmni ei theulu, ond dydy’r heddlu ddim yn credu mai hi oedd yn cael ei thargedu.

Cafodd ei mam, LaPorsha Washington, ei hanafu yn y digwyddiad.

Mae lle i gredu bod y saethwr wedi camgymryd aelod o’r teulu am rywun arall cyn yr ymosodiad ar Ragfyr 30.

Mae Eric Black Jr wedi’i gyhuddo o’i llofruddio, ac wedi cyfaddef ei ran yn y digwyddiad. Mae’n bosib fod rhywrai eraill yn rhan o’r digwyddiad hefyd.

Cafodd rali ei chynnal ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 5) ger safle’r digwyddiad, lle’r oedd pobol yn galw am gyfiawnder ar ôl i LaPorsha Washington awgrymu mai am fod ei merch yn groenddu y cafodd hi ei lladd.

Mae gwobr ariannol o $100,000 (£79,000) yn cael ei chynnig am wybodaeth.