Mae eira mawr yn achosi trafferthion i deithwyr mewn rhannau o’r Almaen ac Awstria gyda ffyrdd a rheilffyrdd yn cau oherwydd ofnau am lithriadau eira.

Mae 120 o deithiau awyren wedi eu canslo ym meysydd awyr Innsbruck a Munich hefyd, yr ail faes awyr mwyaf yn yr Almaen.

Mae’r awdurdodau yn yr Almaen yn rhybuddio sgiwyr i gadw at y llethrau swyddogol oherwydd bod llithriadau mawr yn debygol.

Mae disgwyl rhagor o eira trwm ledled de’r Almaen, Awstria a’r Swistir dros y dyddiau nesaf.