Gall y ffordd mae Iwerddon wedi ymateb i Brexit fod yr arwydd cliraf o annibyniaeth seicolegol y wlad, yn ôl un o’i chyn-lysgenhadon.

Dywed Bobby McDonagh, cyn-lysgennad Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd, Prydain a’r Eidal, fod gan lawer o Wyddelod a Phrydeinwyr ddealltwriaeth gwbl wahanol o’r byd bellach.

“I ni, mae prif ddadleuon ac ofnau cefnogwyr Brexit yn estron yn eu hanfod,” meddai mewn erthygl yn yr Irish Times heddiw.

“Dydyn ni ddim yn rhannu eu dymuniad i ddychwelyd i orffennol dychmygol. Yn wahanol i Brydain heddiw, rydyn ni’n hyderus am ein gallu i hyrwyddo ein buddiannau yn y byd rhyngddibynnol modern.

“Rydym yn deall sofraniaeth yn y 21ain ganrif fel rhywbeth i’w rannu’n synhwyrol yn hytrach na chrair i’w warchod rhag yr haul fel modrwy Gollum yn The Hobbit.”

Gwahaniaeth cynyddol

Yn ôl Bobby McDonagh, mae mwyafrif llethol pobl Iwerddon o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd am union yr un resymau ag mae rhai pobl ym Mhrydain eisiau gadael.

“Slogan fawr Brexit oedd ‘cymryd rheolaeth’ – ac mae llwyddiant aruthrol y polisi hwnnw i’w weld bob dydd yn San Steffan,” meddai.

“Yn rhyfedd iawn, rydyn ni yn Iwerddon yn dewis aros yn yr UE am yr union reswm fod arnon ni eisiau rheolaeth dros y materion sy’n effeithio arnon ni.

“Fe fydd llawer o faterion, yn addysg, iechyd a phlismona, wrth gwrs, yn dal i gael eu rheoli ar lefel genedlaethol yn bennaf.

“Ond yn Iwerddon, rydyn ni’n deall bod yn rhaid ymdrin â materion fel masnach ac ynni a throseddu rhyngwladol ar lefel drawsffiniol.

“Rydym yn gwybod bod y byd go-iawn yn un o ryng-ddibyniaeth, cyfaddawd a chyd-fuddiannau.

“Y realiti trist yw bod ffordd o feddwl Prydain ac Iwerddon yn mynd yn fwyfwy gwahanol a’n bod yn anelu i gyfeiriad gwahanol bellach.

“Gall ymateb aeddfed Iwerddon i Brexit brofi i fod y datganiad pwysicaf eto o’n hannibyniaeth seicolegol.”