Mae pump o ferched yn eu harddegau wedi cael eu lladd ac un dyn wedi cael ei anafu mewn tân mewn safle gemau Escape Room yng ngogledd Gwlad Pwyl.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu yn ninas Koszalin, mae’n debygol bod y merched 15 oed yn dathlu penblwydd un o’u plith.

Mae’n ymddangos mai gwifrau diffygiol oedd yn gyfrifol am y tân, a  bod y merched wedi marw o ganlyniad i fygu wrth anadlu carbon monocsid.

Mae safleoedd gemau fideo Escape Room yn boblogaidd iawn gan bobl ifanc yn eu harddegau ledled Gwlad Pwyl.

Dywedodd arlywydd y wlad, Andrzej Duda, bod marwolaeth pum merch mor ifanc yn drychineb enbyd, ac mae’r gweinidog cartref, Joachim Brudzinski wedi gorchymyn gosod mesurau diogelwch tân ym mhob safle Escape Room.