Mae Tŷ’r Cynrychiolwyr wedi rhoi sêl bendith i ddeddfwriaeth a fydd yn dod a diwedd i’r ffrae sydd wedi arwain at gau llywodraeth yr Unol Daleithiau am gyfnodau.

Ond maen nhw wedi anwybyddu galwadau’r Arlywydd Trump am biliynau o ddoleri’n ychwanegol i adeiladu wal rhwng y ffin a Mecsico.

Daw hyn wrth i’r Democratiaid gymryd rheolaeth o’r Tŷ ar ôl ennill 235 sedd yn yr etholiadau ym mis Tachwedd.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys bil i ariannu diogelwch Homeland ar ei lefelau presennol tan 8 Chwefror ond nid i roi £3.95biliwn ychwanegol mae’r Arlywydd Trump ei angen i helpu i adeiladu’r wal.

Serch hynny, mae’n annhebygol y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud yn gyfraith.

Ond mae Mitch McConnell, arweinydd y Gweriniaethwyr yn y Senedd, wedi wfftio’r penderfyniad gan ddweud na fyddai’r Senedd yn delio gydag unrhyw ddeddfwriaeth sy’n debygol o gael ei atal gan yr Arlywydd.