Cafodd dynes ei saethu’n farw ar ôl i filwyr India saethu at filwyr Pacistan ar y ffin yn Kashmir yn ardal yr Himalaya.

Anafwyd naw o bobl  – yn cynnwys dwy ddynes a thri o blant – yn y saethu.

Mae’r ddwy wlad yn hawlio fod yr ardal yn berchen iddyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Pacistan fod eu milwyr nhw wedi “ymateb yn effeithiol” ac wedi targedu o ble daeth y saethu o’r ochr Indiaidd. Fe ranwyd lluniau o’r plant a anafwyd yn y saethu yn eu dangos yn cael eu trin mewn ysbyty lleol.

Rhoddodd Raja Shahid, dirprwy gomisiynydd yn ardal Pacistan o Kashmir, y bai ar India am ddechrau y saethu. Bu’r ddwy ochr yn saethu at ei gilydd am rai oriau, meddai.

Fodd bynnag, fe wadodd India eu rhan yn y digwyddiad gan honni yn hytrach fod eu milwyr nhw wedi gwrthsefyll ymosodiad o ran Pacistanaidd Kashmir ddydd Sul.

Dywedon nhw fod dau o bobl wedi’u lladd ac maen debyg eu bod yn filwyr Pacistanaidd.

↑ Top of page