Mae Gogledd Corea yn galw am gynnal rhagor o drafodaethau heddwch â De Corea.

Mae’r arweinydd Kim Jong Un wedi anfon llythyr at Moon Jae-in yn galw am gyfarfod yn y flwyddyn newydd, ac yn dweud ei fod yn difaru nad oedd modd cynnal y trafodaethau cyn i’r flwyddyn bresennol ddod i ben.

Roedd y ddau wedi addo cyfarfod yn dilyn eu sgwrs flaenorol yn Pyongyang ym mis Medi.

“Fe fydd llawer o anawsterau o’n blaenau,” meddai Moon Jae-in ar Twitter.

“Fodd bynnag, fe ddaw ein calonnau’n fwy agored os gwnawn ni dipyn o ymdrech.

“Does dim newid yn ein calon o ran croesawu’r Cadeirydd Kim [i Dde Corea].”

Cyfaddawdu

Yn dilyn tri chyfarfod blaenorol, mae’r tensiwn rhwng y ddwy wlad wedi lleihau i ryw raddau.

Maen nhw eisoes wedi cytuno i gydweithio’n economaidd, ac wedi dweud eu bod yn ffyddiog y gall sancsiynau rhyngwladol ar Ogledd Corea ddod i ben er mwyn hwyluso hynny.

Maen nhw hefyd wedi lleihau eu bygythiadau milwrol yn erbyn ei gilydd.

Daw’r sylwadau flwyddyn union ar ôl i Kim Jong Un ddefnyddio anerchiad blynyddol i awgrymu y gallai perthynas y wlad â De Corea wella’n raddol yn ystod y flwyddyn.

Mae Gogledd Corea eisoes wedi cytuno i ddileu ei harfau niwclear o fewn cyfnod amhenodol, ac mae gobaith bellach y gallai uwchgynhadledd gael ei threfnu rhwng Gogledd Corea, De Corea a’r Unol Daleithiau yn 2019.