Mae Donald Trump wedi bygwth cau’r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico os na fydd Democratiaid yn y Gyngres yn cytuno i dalu am godi wal yno.

Mewn neges Twitter y bore yma, dywedodd “byddwn yn cael ein gorfodi i gau’r Ffin Ddeheuol yn llwyr” oni fydd cytundeb gyda’r Democratiaid.

Mae cais Donald Trump am arian i godi’r wal ar y ffin a gwrthodiad y Democratiaid i gytuno i’w gais wedi achosi i’r llywodraeth gau yn rhannol ers bron i wythnos.

Mae hyn wedi arwain at gannoedd o weithwyr y llywodraeth ffederal yn cael eu hanfon adref o’u gwaith, gyda dinasyddion sy’n dibynnu ar rai gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau dioddef.