Mae.Americanwr wedi llwyddo i fod y person cyntaf erioed i groesi Antarctica ar ei ben ei hun heb gymorth.

Fe gymrodd hi 54 diwrnod i Colin O’Brady gwblhau’r siwrnai a oedd yn cael ei hystyried yn amhosib.

Fe lwyddodd y gwr o Portland, Oregon, i wneud y daith 930 milltir, wrth i’w deulu a’i ffrindiau ddilyn ei antur ar-lein.

“Dw i wedi’i wneud o!” meddai trwy’i ddagrau ar ôl cwblhau’r gamp a oedd.bron i gyd yn ddringfa serth.

Mae Colin O’Brady wedi cofnodi ei daith ar Instagram, dan y teitl ‘The Impossible First’.