“Nadolig trist” sydd wedi cael ei nodi yn rhai o’r ardaloedd yn Indonesia lle trawodd tswnami ynghynt yn y mis.

Yn ôl offeiriad yn un o’r ardaloedd a ddioddefodd fwya’, Carita, doedd dim caneuon llawen yn eu gwasanaeth Nadolig eleni.

Erbyn hyn, mae nifer y meirwon yn y trychineb wedi codi i 420 o bobol, gydag o leia’ 128 arall ar goll o hyd a 1400 wedi eu hanafu.

Yn ôl adroddiadau lleol, mae llawer o bobol wedi gadael yr ardaloedd glan môr yn ynys Java ac Ynysoedd Sumatra er mwyn mynd i’r brifddinas, Jakarta.

Y gred yw fod y tswnami wedi ei achosi wrth i ran o losgfynydd Karakatau ddymchwel.