Mae o leiaf 222 o bobol wedi cael eu lladd, a 843 o bobol wedi’u hanafu, mewn tswnami yn Indonesia.

Mae 28 o bobol yn dal ar goll yn dilyn y digwyddiad neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 22), pan wnaeth hyd at 65 troedfedd o ddŵr gyrraedd y tir a difrodi cannoedd o gartrefi a gwestai.

Mae lle i gredu bod ynys o losgfynydd Anak Krakatau o dan y môr wedi ffrwydro, a bod y tonnau a gafodd eu hachosi gan y lleuad lawn wedi cyfrannu at y trychineb.

Roedd torf o bobol yn gwrando ar fand Seventeen yn perfformio ar draeth wrth i’r tswnami daro, ac fe gafodd un aelod o’r band a’u rheolwr eu lladd wrth i’w hoffer gael ei daflu i ganol y dorf. Mae pedwar aelod o’r band yn dal ar goll.

Difrod

Mae ardal Pandeglang yn nhalaith Banten yn Java ymhlith y rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf. Mae’r ardal yn cwmpasu parc cenedlaethol Ujung Kulon a nifer o draethau poblogaidd.

Fe fu’n rhaid i gannoedd o bobol ffoi o’u cartrefi yn ninas Bandar Lampung yn ne Sumatra, gan ddod o hyd i loches yn swyddfa’r llywodraethwr.

Mae Joko ‘Jokowi’ Widodo, Arlywydd Indonesia, wedi mynegi ei gydymdeimlad â’r rhai sydd wedi colli anwyliaid, gan orchymyn asiantaethau’r llywodraeth i ymateb yn gyflym i’r digwyddiad.

Y tswnami a’r llosgfynydd

Roedd llosgfynydd Anak Krakatau yn Sunda wedi ffrwydro ar ôl chwe mis o berygl.

Mae’r llosgfynydd ar uchder o 1,000 o droedfeddi ac ym mis Gorffennaf, cafodd pobol orchymyn i beidio â mynd o fewn 1.24 milltir iddo.

Mae 430 o gartrefi, naw o westai a deg o longau wedi’u difrodi’n ddifrifol.

Daw’r digwyddiad ychydig fisoedd yn unig ar ôl i fwy na 2,500 o bobol gael eu lladd mewn daeargryn a tswnami yn ninas Palu ar ynys Sulawesi yn Indonesia.