Mae un o brif lysgenhadon yr Unol Daleithiau wedi ymddiswyddo yn sgil y penderfyniad i dynnu milwyr allan o Syria.

Brett McGurk fu’n cynrychioli’r Unol Daleithiau yn y glymblaid yn erbyn Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd.

Mae’n dilyn Jim Mattis, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, sydd hefyd wedi rhoi’r gorau i’w swydd o ganlyniad i benderfyniad yr Arlywydd Donald Trump.

Roedd Brett McGurk yn bwriadu gadael ei swydd ganol mis Chwefror, 0nd fe benderfynodd e fynd yn gynt, gan gyflwyno’i ymddiswyddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol, Mike Pompeo ddydd Gwener.