Mae ymgyrchwyr dros annibyniaeth Catalunya wedi bod yn rhwystro trafnidiaeth ar rai o brif strydoedd Barcelona.

Maen nhw’n protestio yn erbyn penderfyniad prif weinidog Sbaen, Pedro Sanchez, i gynnal cyfarfod wythnosol y cabinet yn y ddinas.

Yn ogystal â heddlu Catalunya, mae cannoedd o blismyn gwrth-derfysg o heddlu cenedlaethol Sbaen wedi cael eu hanfon yno.

Ddoe, fe fu cyfarfod rhwng Pedro Sanchez ac arlywydd Catalunya, Quim Torra – dim ond yr ail gyfarfod ers i’r ddau ddod i rym yn gynharach eleni.

Mae’r ddau wedi cytuno i geisio cael ateb i’r argyfwng gwleidyddol yno ers ymgais aflwyddiannus Catalunya i dorri’n rhydd oddi wrth Sbaen y llynedd.