Mae pennaeth yr Eglwys Gatholig wedi derbyn llythyr ymddiswyddiad esgob Los Angeles, Alexander Salazar, yn dilyn honiadau o gamymddwyn.

Fe ddaeth y cadarnhad ar ffurf datganiad ar-lein, a hynny ar fater sydd wedi bod yn un tanllyd iawn eleni, yn dangos sut y mae esgobion wedi bod yn osgoi cael eu cosbi am ymddygiad amhriodol.

Mae archesgob Los Angeles, y Gwir Barchedicaf Jose Gomez, yn dweud fod swyddogion yn ymwybodol o’r honiadau yn erbyn y cyn-esgob yn 2005. Chafodd cyhuddiadau ddim eu dwyn, ond fe ddewisodd yr archddeoniaeth bryd hynny basio’r wybodaeth ymlaen i swyddfa’r Fatican sy’n delio ag achosion o gam-drin rhywiol.

Mae’r cyn-esgob 69 oed yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le.