Mae Prif Weinidog Gwlad Belg wedi camu o’r neilltu yn dilyn ffrae ynghylch hawliau mudo rhwng gwledydd.

Mae pwysau mawr wedi bod ar lywodraeth y wlad ar ôl golli cefnogaeth un o brif bartneriaid y glymblaid.

Roedd plaid asgell-dde y Gynghrair Fflemaidd Newydd (N-VA) yn gwrthwynebu cefnogaeth Charles Michel i gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar fudo rhyngwladol.

Cafodd y cytundeb ei arwyddo gan y Prif Weinidog yn ninas Marrakech yr wythnos ddiwethaf, ac mae gwrthwynebwyr y cytundeb wedi galw llywodraeth leiafrifol Charles Michel yn “glymblaid Marrakech”.

Mae’r N-VA yn teimlo bod y cytundeb yn mynd yn rhy bell wrth roi hawliau ychwanegol i fudwyr.

Fe ymddiswyddodd Charles Michel ar ôl iddo fethu â derbyn cefnogaeth ei gyd-wleidyddion yn Siambr y Cynrychiolwyr.