Mae naw ffoadur, gan gynnwys dynes a phlentyn, wedi’u hachub oddi ar arfordir Dunkirk wrth iddyn nhw geisio hwylio mewn cwch i wledydd Prydain.

Yn ôl yr awdurdodau yn Ffrainc, fe ddaethon nhw o hyd i’r ffoaduriaid yn gynnar y bore yma (dydd Mawrth, Rhagfyr 18) ar ôl treulio tair awr yn chwilio amdanyn nhw.

Roedd y cwch wedi’i leoli tua 20 milltir i’r gogledd-orllewin o Dunkirk.

Bu hofrennydd a thri llong yn chwilio amdanyn nhw ar y cychwyn, cyn i ragor o hofrenyddion o Wlad Belg a gwledydd Prydain gyrraedd i archwilio rhan ogleddol y Sianel.

Ers mis Hydref, mae nifer y ffoaduriaid sy’n ceisio hwylio i wledydd Prydan ar eu liwt eu hunain ar gynnydd.

Ar Dachwedd 22, fe ddaeth achubwyr o hyd i 18 ffoadur mewn dau gwch yng nghanol y Sianel.