Roedd y bomiau awyr gafod eu gollwng ar Somalia gan yr Unol Daleithiau, gan ladd 62 o bobol, yn rhan o ymosodiad i “atal ymosodiad eithafol”, yn ôl swyddog cudd-wybodaeth Somalia.

Fe gynhaliodd byddin yr Unol Daleithiau bedwar ymosodiad ddydd Sadwrn (Rhagfyr 15), pan gafodd 34 o bobol eu lladd. Cafodd 28 o bobol eraill eu lladd mewn dau ymosodiad arall ddydd Sul (Rhagfyr 16).

Roedd yr ymosodiadau awyr wedi targedu tref arfordirol Somalia, Gandarshe, sydd i’r de o brifddinas Mogadishu.

Yn ôl datganiad gan fyddin yr Unol Daleithiau, gydweithrediad llywodraeth Somalia er mwyn atal grŵp filitaraidd al-Shabab rhag defnyddio ardaloedd anghysbell fel canolfan ddiogel i gynllwynio ymosodiadau yn y dyfodol.

Dywedodd swyddog cudd-wybodaeth Somalia bod y streiciau wedi cael eu hanelu ar eithafwyr al-Shabab oedd yn paratoi ymosodiad ar lywodraeth Somalia yn rhanbarth Shabelle.

Mae byddin yr Unol Daleithiau wedi cynnal o leiaf 46 o ymosodiadau awyr eleni yn erbyn al-Shabab, grŵp mwyaf gweithgar Affrica, sydd a chysylltiadau ag al Quaeda.