Mae cytundeb heddwch wedi dod i rym mewn porthladd allweddol yn Yemen.

Ond ychydig amser cyn hynny, bu brwydro caled yn ninas Hodeida rhwng lluoedd cynghreiriaid y Llywodraeth a gwrthryfelwyr.

Yn ôl swyddogion, fe fu’r ymladd yn ne a dwyrain y ddinas yn ystod yr awr olaf cyn yr heddwch.

Mae yna adroddiadau bod yr ymladd wedi parhau ar ôl i’r cytundeb ddod i rym hefyd.

Heddwch?

Roedd lluoedd y llywodraeth, sy’n derbyn cefnogaeth gan wledydd fel Sawdi Arabia, a gwrthryfelwyr wedi cytuno ar heddwch yn Hodeida yn dilyn trafodaethau yn Sweden yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r ddinas yn borthladd pwysig i’r wlad, gan ei fod yn fynedfa i 70% o fewnforion.

Mae’r rhyfel bellach wedi gwthio rhan fawr o’r wlad tuag at newyn, ac mae swyddogion rhyngwladol yn dweud bod 22m allan o’r 29m sy’n byw yn Yemen angen cymorth.

Mae rhai ystadegau’n nodi bod mwy na 60,000 o bobol wedi marw yn ystod y rhyfel ei hun, er bod y ffigwr swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig yn nodi 10,000 o golledion.