Mae dyn sy’n cael ei amau o gyflenwi’r gwn a gafodd ei ddefnyddio mewn ymosodiad yn Strasbourg yr wythnos ddiwethaf, wedi’i gyhuddo o droseddau brawychol.

Yn ôl yr awdurdodau, fe ymddangosodd y dyn gerbron barnwr wedi’i gyhuddo o weithio mewn cysylltiad â grwpiau brawychol, yn ogystal â bod ym meddiant a chyflenwi arfau mewn cysylltiad â menter frawychol.

Mae’n cael ei amau o gyflenwi’r dryll i Cherif Chekatt, a saethodd pump o bobol ger marchnad Nadolig yn y ddinas yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ddydd Iau diwethaf (Rhagfyr 13).

Bu farw’r saethwr yn y fan a’r lle yn dilyn brwydr gyda’r heddlu.

Tri yn y ddalfa

Erbyn hyn, mae cyfanswm o dri o bobol yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn Strasbourg.

Cafodd dau berson arall eu harestio ddydd Llun yn rhan o ymchwiliad gan erlynwyr yn Paris, ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.

Maen nhw hefyd yn cael eu hamau o gyflenwi’r arf, yn ôl swyddogion.