Wythnos yn unig cyn gwyliau’r Nadolig mae gweithwyr yng nghanolfan ddosbarthu Amazon yn yr Almaen wedi penderfynu mynd ar streic fel rhan o ymgyrch i wella eu hamodau gwaith.

Amazon yw’r cwmni manwerthu ar-lein fwyaf yn y byd, ac mae ’na bryderon na fydd archebion y Nadolig yn cyrraedd cwsmeriaid mewn pryd.

Dywedodd asiantaeth newyddion yr Almaen fod gweithwyr yn ninas Leipzig yn nwyrain yr Almaen, ynghyd a Werne yn y gorllewin wedi mynd ar streic yn gynnar heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 17).

Yn ôl undeb ver.di sy’n cynrychioli’r gweithwyr, mae gweithwyr Amazon y wlad yn cael llai o gyflog nag eraill sydd mewn swyddi manwerthu ac archebu trwy’r post yno.

Mae Amazon wedi dweud yn y gorffennol bod ei weithwyr yn ennill cyflogau cymharol uchel i’r diwydiant.