Mae Ranil Wickremesinghe, prif weinidog Sri Lanca wedi dychwelyd i’w swydd – ddeufis yn unig ers iddo gael ei ddiswyddo.

Fe dyngodd e lw gerbron yr Arlywydd Maithripala Sirisena fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 16).

Daw’r penodiad â 50 niwrnod o ansefydlogrwydd i ben, ac mae disgwyl i Gabinet newydd gael ei benodi’n fuan.

Cefndir

Cafodd Ranil Wickremesinghe ei ddiswyddo ar Hydref 26, wrth i Mahinda Rajapaksa gael ei benodi yn ei le.

Ond roedd e’n mynnu bod y diswyddiad yn anghyfreithlon, ac fe wrthododd y Senedd roi sêl bendith i’w olynydd.

Ddydd Gwener (Rhagfyr 14), cafodd Mahinda Rajapaksa ei orfodi i ymddiswyddo, ac fe ddaeth ei ymddiswyddiad ddoe.