Mae yna filoedd o blismyn yn Paris heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 15) ar gyfer gwrthdystiadau gan y protestwyr ‘festiau melyn’.

Mae’r awdurdodau Ffrengig wedi ail ddatgan eu hapel i’r gwrthdystwyr gynnal protestiadau heddychlon yn dilyn y trais wedi protestiadau cyffelyb dros y penwythnosau blaenorol.

Gwelwyd lluoedd diogelwch wedi’u gwisgo mewn dillad gwrth-derfysg wedi’u lleoli o amgylch gorsafoedd trenau ac ar hyd y Champs-Elysees, lle’r oedd mwyafrif y siopau wedi rhoi byrddau coed ar eu ffenestri yn barod.

Mae yna gerbydau gyda chwistrellwyr dwr wedi eu parcio gerllaw.

Dywed yr awdurdodau fod 8,000 o swyddogion yr heddlu a 14 o gerbydau gwrth-frawychiaeth ar ddyletswydd ym mhrifddinas Ffrainc,

Y penwythnos diwethaf fe faluriwyd siopau a chafodd nwyddau eu dwyn wrth i’r protestwyr ymladd gyda’r heddlu a llosgi barricâdau oedd wedi’u gosod ar y strydoedd.

Dechreuodd y protestiadau ganol fis Tachwedd fel gwrthdystio yn erbyn cynnydd yn nhrethi tanwydd.

Ond fe gynnyddodd y protestiadau wedyn oherwydd anfodlonrwydd ynglŷn â chostau byw uchel a’r syniad fod llywodraeth yr Arlywydd Emmanuel Macron ddim yn teimlo’r pwysau sydd ar weithwyr cyffredin yn ddyddiol.

Mae cannoedd o bobol wedi ymgynnull yn y Champs-Elysees y bore ma.