Mae’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd teledu dadleuol, Piers Morgan, ymhlith y rheiny sydd wedi dweud bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn bod yn bennaeth staff newydd Donald Trump.

Daw’r awgrym gan gyflwynydd Good Morning Britain ym mhapur The Daily Mail wrth i sibrydion barhau i ledu ynghylch pwy fydd yn olynu John Kelly, a gyhoeddodd yn ddiweddar ei fod am adael y Tŷ Gwyn.

Dydy enw’r olynydd ddim wedi’i gadarnhau eto, ond mae’r ddrama wedi cynyddu dros y dyddiau diwethaf ar ôl i’r dyn a oedd yn cael ei ystyried yn ffefryn ar gyfer y swydd gamu o’r ras.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth y cyhoeddiad sydyn gan Nick Ayers, pennaeth staff y Dirprwy Arlywydd, Mike Pence, ei fod yn camu o’r neilltu.

Ers hynny, mae sawl enw newydd wedi’i grybwyll gan gynnwys Mick Mulvaney, aelod o gabinet Donald Trump; Robert Lighthizer, Cynrychiolydd Masnach yr Unol Daleithiau, a Steven Mnuchin, Ysgrifennydd y Trysorlys.

Gan fod Donald Trump yn cellwair yn aml ynghylch pwy fydd yn camu i’r swydd ar y cyfryngau cymdeithasol, does dim dal os yw’r opsiynau sy’n cael eu crybwyll ganddo yn rhai o ddifrif.