Mae’r dyn sy’n cael ei amau o ladd tri o bobl mewn marchnad Nadolig yn Strasbourg wedi marw ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu, meddai’r awdurdodau yn Ffrainc.

Mae swyddfa’r erlynydd yn Paris wedi cadarnhau mai Cherif Chekatt, 29 oed, oedd y dyn gafodd ei ladd yn y ddinas neithiwr (nos Iau, Rhagfyr 13). Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio amdano ers deuddydd.

Roedd wedi’i gael yn euog o nifer o droseddau dros gyfnod hir, gan gynnwys lladradau.

Roedd Cherif Chekatt hefyd wedi bod ar restr o eithafwyr posib.

Mae’n debyg bod Cherif Chekatt wedi tanio gwn at yr heddlu ar ôl iddyn nhw geisio ei arestio, meddai’r gweinidog Christophe Castaner, a bod yr heddlu wedi ymateb.

Mae’n cael ei amau o ladd tri o bobl ac anafu 13 ger marchnad Nadolig Strasbourg nos Fawrth (Rhagfyr 11). Mae tri o’r rhai sydd yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol. Fe lwyddodd y dyn arfog i ddianc mewn tacsi.

Cafodd pump o bobl eu harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad gan gynnwys rhieni Cherif Chekatt, dau o’i frodyr a dyn arall sydd ddim yn aelod o’r teulu.