Mae’r ddwy ochr yn rhyfel Yemen wedi cytuno i roi’rorau i’r saethu yn ninaas Hodeida, yn dilyn diwrnod o drafod mewn cynhadledd yn Sweden heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 13).

Dywed Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig bod y ddwy ochr hefyd wedi cytuno i dynnu milwyr allan o’r ddinas y maen nhw wedi bod yn ymladd drosti.

Mae Antonio Guterres wedi diolch  i’r trafodwyr am yr hyn a alwodd yn “gam pwysig” mewn “datblygiad gwirioneddol tuag at sgyrsiau i ddod â’r rhyfel i ben”.

Fe fu’n siarad ar ddiwedd seremoni’r trafodaethau yn nhref Rimbo yn Sweden, gan ddiolch i’r ddwy ochr am geisio creu dyfodol gwell i Yemen.

Mae’r rhyfel cartref yn ei bedwaredd flwyddyn – mae un ochr yn cynnwys llywodraeth Yemen gyda chefnogaeth llywodraeth Sawdi Arabia, a’r ochr arall yn cynnwys rebeliaid y Houthis gyda chefnogaeth Iran.

O ganlyniad mae Yemen wedi gweld argyfwng dyngarol mwyaf y byd – gyda 70% o’i phobol yn newynu.