Mae heddlu Ffrainc yn dweud eu bod dal yn chwilio am ddyn oedd wedi ymosod ar bobol gyda gwn mewn marchnad Nadolig yn Strasbwrg ar ddydd Mawrth (Rhagfyr 11).

Fe laddodd y dyn tri o bobol a gadawodd 13 wedi eu anafu – gyda pump ohonynt mewn cyflwr difrifol.

Mae dros 700 o swyddogion heddlu Ffrainc yn cymryd rhan yn ceisio darganfod y dyn 29 oed o’r enw Cherif Chekatt.

Roedd yr heddlu’n yn gwybod amdano’n barod am eithafiaeth yn ôl llefarydd y llywodraeth, Benjamin Griveauz, ac mae erlynwyr nawr yn ei drin fel achos o frawychiaeth.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau llun o Cherif Chekatt, a gafodd ei anafu gan fwled yr heddlu.

Mae llywodraeth Ffrainc wedi codi lefel rhybuddio brawychiaeth ar draws y wlad ac mae 1,800 o filwyr ychwanegol wedi eu gosod  i ddiogelu strydoedd.