Mae dau gardinal wedi gorfod ildio eu lle yng nghabinet anffurfiol y Pab, yn dilyn y ffrae ynghylch cam-drin rhyw o fewn yr Eglwys Gatholig.

Yn ôl y Fatican, mae’r Pab wedi ysgrifennu at Gardinal Javier Errazuriz o Chile a Chardinal George Pell o Awstralia yn diolch iddyn nhw am bum mlynedd o wasanaeth i Grŵp y Naw, neu ‘C-9’ fel y mae’n cael ei adnabod.

Mae llythyr o ddiolch hefyd wedi’i anfon at Gardinal Laurent Monsengwo Pasinya, sydd ddim wedi bod yn rhan o’r ffrae, yn dilyn ei ymddeoliad yn archesgob Kinshasa yn ddiweddar, ac yntau’n 79 oed.

Mae Javier Errazuriz, 85, yn wynebu honiadau o gelu gwybodaeth am achosion o gam-drin rhyw a ddigwyddodd o fewn yr Eglwys Gatholig yn Chile pan oedd yn Archesgob Santiago.

Fe ildiodd George Pell, 77, ei swydd yn weinidog yr economi er mwyn sefyll ei brawf yn Awstralia, ac yntau wedi’i gyhuddo o gyflawni troseddau rhyw ‘hanesyddol’.

Dydy’r Fatican ddim wedi crybwyll yr honiadau wrth nodi ymadawiad y ddau o gylch mewnol y Pab, ond maen nhw’n ychwanegu na fydd y swyddi gwag yn cael eu llenwi.