Mae llys yn Awstralia wedi dedfrydu bachgen yn ei arddegau o Sydney i beth bynnag 12 mlynedd yng ngharchar, am gynllunio ymosodiad brawychol yn arddull y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Fe gafodd y bachgen, sydd erbyn hyn yn 18 oed, ei arestio y tu allan i neuadd weddi Fwslimaidd yn ardal Bankstown, Sydney, ym mis Hydref 2016. Fe’i cafwyd yn euog o gynllunio ymosodiad gan reithgor ym mis Medi eleni.

Yng Ngoruchaf Lys Parramatta heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 11), mae’r Barnwr Geoffrey Bellew wedi gwrthod honiad y dyn ifanc mai prynu arfau ar gyfer hela anifeiliaid yr oedd.

“Ar adeg ei ddwyn i’r ddalfa, roedd y troseddwr yn barod, yn awyddus ac yn alluog i gyflawni ymosodiad brawychol,” meddai’r barnwr.

Roedd y bachgen eisoes wedi cyfaddef i’r llys ei fod yn cydymdeimlo gyda IS ar adeg prynu’r arfau yn ei feddiant. ond roedd yn gwadu bod ganddo unrhyw gynllun brawychol.

Roedd y barnwr o’r farn bod y dystiolaeth yn dweud fel arall, a dyna pam ei fod wedi’i ddedfrydu i 16 mlynedd yng ngharchar, a dim cyfle i ofyn am parôl am o leiaf 12 mlynedd.