Mae 17 o bobol wedi’u lladd a 10 o bobol wedi’u hanafu ar ôl i ddau fws daro yn erbyn ei gilydd yn Bolifia.

Aeth teithwyr yn sownd yn un o’r cerbydau ar ôl y gwrthdrawiad ger tref Achacachi ym mynyddoedd yr Andes.

Yn ôl yr heddlu, roedd un bws yn teithio’n rhy gyflym ac mae posibilrwydd ei fod wedi gwyro i’r lôn arall wrth i’r bws arall deithio tuag ato.

Mae gwrthdrawiadau rhwng bysus yn gyffredin yn y wlad oherwydd y ffyrdd cul a mynyddig.