Mae llys yn yr Iseldiroedd wedi rhoi caniatâd i ladd cannoedd o geirw coch mewn parc bywyd gwyllt i’r gogledd o Amsterdam.

Mae’r achos wedi ennyn gwrthwynebiad chwyrn gan ymgyrchwyr bywyd gwyllt.

Mae’r gorchymyn hwn yn rhoi’r hawl i saethwyr ladd cannoedd o geirw yn Oostvaardersplassen, parc bywyd gwyllt a gafodd ei greu’n wreiddiol ar gyfer adar ond sydd hefyd yn gartref i geirw, ceffylau a gwartheg.

Mae’r anifeiliaid yn cael crwydro’n wyllt yn y parc, ond mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio yn ystod y blynyddoedd diweddar oherwydd bod rhai anifeiliaid pori wedi cael eu gadael i lwgu yn ystod misoedd llwm y gaeaf, pan nad oes gormod o fwyd ar gael.

Mae’r awdurdodau lleol eisiau gweld nifer yr anifeiliaid mawr yno yn gostwng, fel bod mwy o dyfiant amrywiol yn tyfu yn y parc.