Mae llythyr a gafodd ei ysgrifennu gan Albert Einstein yn 1954 wedi cael ei werthu am £2.2m.

Fe gafodd y llythyr, a werthwyd yn arwerthiant Christie’s yn Efrog Newydd, ei ysgrifennu gan y gwyddonydd byd enwog flwyddyn cyn iddo farw.

Mae’r darn o ohebiaeth yn trafod meddyliau Albert Einstein ar grefydd, wrth iddo ymateb i’r athronydd, Eric Gutkind, a ysgrifennodd lyfr ar y cyswllt rhwng Iddewiaeth a gwyddoniaeth.

“Mae’r gair Duw, i fi, yn ddim byd mwy na ymdeimlad a chynnyrch o wendid y dynolryw, a’r Beibl yn gasgliad o chwedlau anrhydeddus, ond cyntefig,” meddai Albert Einstein.

Roedd y llythyr eisoes wedi cael ei werthu am £317,000 mewn ocsiwn yn Llundain yn 2008.