Mae awyren cario tanwydd, ynghyd â jet wedi mynd benben uwchben y Môr Tawel ger Japan, ac mae gweithwyr achub hyd yma wedi dod o hyd i ddau allan o’r saith aelod o griw a oedd ar eu byrddau.

Mae’r US Marine Corps wedi cadarnhau i’r gwrthdrawiad ddigwydd am 2yb, rhwng jet F/A-18 ac awyren danwydd KC-130 a oedd yn ymarfer ar y pryd ger Hiroshima yng ngorllewin Japan.

Mae adroddiadau’n amrywio o ran pa mor bell o’r arfordir y digwyddodd y ddamwain, gydag America’n dweud ei bod 200 milltir allan i’r môr, tra bod Japan yn honni 60 milltir o’r lan.

Roedd y ddwy awyren yn cario cyfanswm o saith aelod o griw – dau yn yr F/A-18, a phump yn y KC-130.