Mae llys yn Awstralia wedi gwyrdroi dedfryd yn erbyn clerigwr yn yr Eglwys Gatholig a gafwyd yn euog o gelu gwybodaeth am achosion o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol.

Mae’r llys rhanbarthol yn New South Wales wedi caniatáu apêl gan Philip Wilson, cyn-Archesgob Adelaide, wedi iddo gael ei ddedfrydu fis Mai eleni.

Roedd yn euog o gelu gwybodaeth wedi i gyd-glerigwr iddo gam-drin dau fachgen ifanc yn ystod yr 1970au.

Ond yn ôl y barnwr, mae yna lle i gredu nad oedd Philip Wilson wedi cyflawni’r drosedd o gwbwl.

Mae’r gŵr 68 oed hyd yn hyn wedi treulio pedwar mis o’i ddedfryd yng nghartref ei chwaer y tu allan i Newcastle, ac roedd disgwyl iddo gael cynnig parôl ar ôl treulio chwe mis dan glo.

Mae’r barnwr hefyd wedi gwrthod apêl yn erbyn gwyrdroi’r ddedfryd.