Mae dynes yn Brasil wedi rhoi genedigaeth i ferch fach ar ôl derbyn croth oddi wrth berson a fu farw.

Dyma’r tro cyntaf i ddynes roi genedigaeth i faban yn dilyn trawsblaniad o’r fath, gydag ymdrechion tebyg yn yr Unol Daleithiau, y Weriniaeth Tsiec a Twrci wedi methu cyn hyn.

Roedd y ddynes32 oed yn dioddef o nam geneteg prin a oedd yn golygu nad oedd ganddi groth ac felly’n methu â chael plant.

Fe dderbyniodd y groth newydd ym mis Medi 2016 yn ystod trawsblaniad yn Ysbyty das Clinicas yn Sao Paulo.

Cafodd y groth ei chymryd oddi ar ddynes 45 oed a fu farw o lid yr ymennydd.

Mae’n debyg bod meddygon wedi treulio 10 awr a hanner yn cwblhau’r trawsblaniad.

Cafodd manylion am y broses eu cyhoeddi yn y cylchgrawn meddygol, The Lancet.