Mae Prif Weinidog Ffrainc, Edouard Philippe, yn cynnal cyfarfod brys gyda chynrychiolwyr o brif bleidiau gwleidyddol y wlad yn dilyn ton o brotestiadau treisgar ym Mharis dros y penwythnos.

Mae dros gant o bobol wedi’u hanafu a 412 wedi’u harestio yn y brifddinas yn ystod y terfysg mwyaf y mae Ffrainc wedi’i gweld ers blynyddoedd.

Mae Arlywydd y wlad, Emmanuel Macron, eisoes wedi cyfarfod a’i Brif Weinidog i drafod diogelwch, a dyw Llywodraeth Ffrainc heb ddiystyru cyflwyno stad o argyfwng.

Fe ddechreuodd y protestiadau y mis diwethaf, yn dilyn anfodlonrwydd gan deithwyr ynglŷn â’r cynnydd mewn treth ar ynni.

Ers hynny, mae pobol wedi bod yn tyrru i’r strydoedd yn cwyno am amharodrwydd Llywodraeth Emmanuel Macron i wrando ar leisiau pobol gyffredin.