Mae’r Unol Daleithiau a Tsieina wedi dod i gytundeb yn dilyn anghydfod masnach sydd wedi effeithio’r marchnadoedd ariannol.

Daeth y cytundeb yn ystod cinio ddydd Sadwrn rhwng Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump ac arweinydd Tsieina, Xi Jinping, yn uwchgynhadledd yr G20 yn Buenos Aires.

Mae Donald Trump wedi cytuno i beidio codi tollau ar ddechrau 2019 ar nwyddau o Tsieina sy’n werth £155 biliwn.

Mae Tsieina wedi cytuno i brynu nifer sylweddol o nwyddau diwydiannol, amaethyddol ac ynni gan yr Unol Daleithiau, meddai’r Tŷ Gwyn.

“Mae’n gytundeb anhygoel,” meddai Donald Trump wrth newyddiadurwyr.

Mae anghydfod wedi bod rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina ynglŷn â masnach a pholisïau technoleg Beijing.

Roedd Washington wedi cyhuddo Tsieina o ddwyn cyfrinachau masnach a gorfodi cwmnïau yn America i drosglwyddo technoleg yn gyfnewid am fynediad i’r farchnad yn Tsieina.

O dan y cytundeb a wnaed yn Buenos Aires, mae gan y ddwy wlad 90 diwrnod i ddatrys yr anghydfod ynglŷn â pholisïau technoleg Beijing.